Deuteronomy 14

1“Bobl Israel, chi ydy plant yr Arglwydd eich Duw. Felly peidiwch torri eich hunain â chyllyll neu siafio eich talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw. 2Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r Arglwydd eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.

Anifeiliaid ac adar glân ac aflan

(Lefiticus 11:1-47)

3“Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd. 4Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr, 5hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.

6“Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil. 7Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.) 8A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)

9“Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw, 10ond dim byd sydd heb esgyll a cennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.

11“Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. 12Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du, 13barcud, hebog, bwncath, 14gwahanol fathau o frain, 15estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath, 16tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen, 17y pelican, eryr y môr, bilidowcar, 18storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith.

19“Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw. 20Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. 21Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r Arglwydd eich Duw.

“Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.

Rhoi deg y cant i Dduw

22“Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn. 23Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr Arglwydd eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis – deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig – gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr Arglwydd eich Duw bob amser.

24“Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi ei ddewis yn rhy bell, 25gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le. 26Wedyn yno, gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau. 27Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.

28“Bob tair blynedd rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno, a'i storio yn eich pentrefi. 29Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr Arglwydd yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud.

Copyright information for CYM